CROESO

Croeso i wefan cyngor ein cymuned. (Cliciwch yma i weld map amlinell.)

O fewn y gymuned ceir tri pentref; Arthog, Fairbourne a Friog. Ar yr ochr orllewinol mae'n terfynu ar Allt Ffynnon yr Hydd neu Allt y Friog ar lafar. Ar yr ochr ddwyreiniol aiff cyn belled ag Islaw'r Dre; i'r gogledd, at lannau'r afon Fawddach, ac i'r de hyd at odre Craig Cwm Llwyd,  Craig y Llyn  a’r Tyrrau Mawr. Mae’n ardal o harddwch neilltuol, yn enwedig Llynnoedd Cregennan, a'r afon Fawddach, sy'n denu llawer o ymwelwyr. Heb fod ymhell o bentref Arthog mae Llwybr y Fawddach, sy'n arwain at Bont y Bermo.

Yn yr ucheldir ffermydd defaid yw'r prif ddiwydiant. Yn y gorffennol, roedd rhai o'r ffermydd yn perthyn i stad Penmaen Uchaf, ond bellach y ffermwyr eu hunain sy’n berchen y rhan fwyaf ohonynt, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd piau rhai eraill.

Datblygiad tipyn yn ddiweddarach yw Friog a Fairbourne, a oedd hyd ganol yr 1800au yn ddim ond tir garw. Fe'i datblygwyd gan Arthur McDougall, a bellach mae'r ddau le bron yn un, gyda llawer o fythynnod gwyliau yno.

O fewn y gymuned hefyd, mae  ymdeimlad cryf o hanes ar hyd y canrifoedd - Llys Bradwen sydd wedi ei ddyddio'n ôl i'r 12ed ganrif; Cylch Cerrig, cofadail yn dyddio'n ôl i 2,000 CC, ac olion Eglwys Goel. Hefyd darganfuwyd olion o'r oes Efydd, ac ar Pared y Gefnhir uwchlaw Llynnoedd Cregennan, dywedir fod olion hen gaer. Mae olion gwaith mwy diweddar i'w gweld hefyd – sef chwarel Arthog a chwarel Goleuwern yn y Friog, a roddodd fywoliaeth i lawer o ganol yr 1800au ymlaen, er na fu'r chwareli ar agor ond am gyfnod byr.

Yn y tudalennau hyn cewch drosolwg o'r hyn mae'r cyngor yn ei wneud ynghyd â pheth gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.

Go to top